Tudalen apel y glowyr ar FaceBook
Mae teuluoedd y pedwar glowr a gafodd eu lladd yn namwain pwll glo’r Gleision wedi gofyn am lonydd i barhau gyda’u bywydau wedi diwedd yr achos llys i’r digwyddiad.

Ac mae arweinydd ymchwiliad yr heddlu wedi canmol y perthnasau am eu “dewrder anferth a’u hurddas” yn ystod tri mis yr achos.

Fe gafwyd rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad a pherchnogion y pwll yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Datganiad y teuluoedd

Mewn datganiad wedi i’r achos ddod i ben ddoe, fe ddywedodd y teuluoedd ei fod wedi bod yn ddiwrnod anodd iddyn nhw – yn union fel y ddwy flynedd a hanner a mwy ers y ddamwain ym mis Medi 2011.

Fe glywodd yr achos fod Philip Hill, 44, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, wedi marw ar unwaith pan ruthrodd cannoedd o filoedd o alwyni o ddŵr i mewn i’r rhan o’r pwll lle roedden nhw’n gweithio.

Roedd yr achos wedi troi ar y cwestiwn a oedd Malcolm Fyfield wedi archwilio’r ardal yn iawn – roedd o’n mynnu ei fod wedi gwneud hynny.

Roedd y teuluoedd yn canmol y timau achub a’r gwirfoddolwyr a fu’n ceisio achub y pedwar dyn ac yn diolch i swyddogion cyswllt yr heddlu a’r gymuned am eu cefnogaeth.

“Fe fydd digwyddiadau 15 Medi, 2011, yn aros gyda ni am weddill ein bywydau,” medden nhw.

‘Cael at y gwir’

Roedd arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Dorian Lloyd yn amddiffyn y penderfyniad i gyhuddo Malcolm Fyfield a’r perchnogion, MNS Mining.

Y bwriad, meddai, oedd cael at y gwir, nid yn unig o ran yr ymchwiliad ei hun ond er mwyn y teuluoedd hefyd.