Wylfa, Ynys Mon
Mae cwmni Magnox wedi cadarnhau y bydd oedi pellach cyn ail-ddechrau adweithydd ar safle atomfa Wylfa ar Ynys Môn, ar ôl darganfod nam.
Cafodd adweithydd rhif un ei gau ym mis Ionawr, ac yn ystod gwaith cynnal a chadw diweddar daeth gweithiwyr o hyd i beipen oedd yn gollwng.
Dywedodd llefarydd nad oedd y nam yn ymwneud â deunydd ymbelydrol.
Mae’r cwmni yn gobeithio y bydd yr adweithydd yn ail-ddechrau o fewn pythefnos, wedi i’r gwaith atgyweirio orffen.
“Rydym yn amcangyfrif y bydd yr adweithydd yn gweithio eto ymhen pythefnos, ac ar ôl hynny bydd gwaith cynhyrchu yn parhau tan 30 Medi – gyda phosibilrwydd o ymestyn y gwaith ar ôl y dyddiad yma,” meddai llefarydd ar ran Wylfa.
Gwastraff niwclear
Cyhoeddodd Golwg bod safleoedd yr Wylfa ar Ynys Môn a Thrawsfynydd yng Ngwynedd yn ddau leoliad sy’n cael eu hystyried i leoli storfa gwastraff niwclear gan Lywodraeth San Steffan.
Mae AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw ar drigolion yr ynys i wrthwynebu’r bwriad, a fyddai’n derbyn gwastraff pwerdai niwclear Prydain, a hynny’n barhaol.