Mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Anthony Christopher, wedi marw yn 67 mlwydd oed ar ôl brwydro yn erbyn liwcemia am 11 mlynedd.
Yn ôl un o aelodau seneddol yr ardal, Ann Clwyd, fe fydd yn cael ei gofio am ei frwydr yn erbyn afiechyd ac am ei frwydro gwleidyddol hefyd.
Mae Maer y Cyngor, Ann Crimmings, wedi dweud fod ei “agwedd benderfynol fel arweinydd, a chyn hynny fel dirprwy, yn esiampl i ni gyd”.
‘Rhoi cant y cant’
Cyn cael ei ethol yn Arweinydd y cyngor ym mis Mai 2012, roedd Anthony Christopher yn Ddirprwy Arweinydd c fe fu’n gynghorydd yng ngogledd Aberaman am 25 mlynedd.
“Fe fu Anthony yn brwydro yn galed yn erbyn ei salwch am fwy na degawd ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe roddodd e gant y cant i’r cyngor a’i gymuned,” meddai Ann Crimmings mewn datganiad.
“Roedd ei agwedd benderfynol fel arweinydd, a chyn hynny fel dirprwy, yn esiampl i ni i gyd.
“Fe fu’n gwasanaethu yn ddiflino dros ei gymuned yng ngogledd Aberaman am dros 25 mlynedd ac fe ddylai ei gyfraniad at wasanaeth cyhoeddus, Rhondda Cynon Taf, a llywodraeth leol yn gyffredinol, gael ei nodi â balchder gan ei deulu a’i gyfeillion.”
Brwydr
Ychwanegodd yr AS Ann Clwyd y “bydd Anthony yn cael ei gofio am ei agwedd ymarferol tuag at bob dim roedd e’n gyfrifol drosto.
“Roedd Anthony yn brwydro bob adeg; doedd ganddo ddim dewis ond gwneud hynny gyda’i salwch.
“Ond roedd ganddo’r un ysbryd i frwydro yn ystod ei yrfa wleidyddol, ac yn ei gyfraniad at fudiad yr undebau llafur.
“Bu’n sefyll yn erbyn llywodraeth y dydd yn ystod Streic y Glowyr, ac yn sefyll o blaid y cyngor a’r etholwyr. Bydd yn cael ei gofio yn fwyaf oll am ei allu i frwydro.”