Betsan Powys
Mae golygydd Radio Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg nad yw’n synnu bod Dyfodol i’r Iaith yn cwyno am arlwy newydd yr orsaf, ond mae’n dweud bod gwrandawyr eraill llai rhugl eu Cymraeg wedi cysylltu i ganmol.

Yn ôl Dyfodol, mae gormod o recordiau Saesneg yn cael eu chwarae a bratiaith yn broblem. Er nad ydyn nhw’n enwi unrhyw gyflwynydd na rhaglen benodol, mae’n debyg mae Tommo yn y pnawn sydd dan y lach.

“Dw i’n cymryd taw at y prynhawniau maen nhw’n cyfeirio, a fydden i ddim yn synnu nad yw arddull ac iaith y prynhawn yn mynd i apelio at Ddyfodol i’r Iaith,” meddai Betsan Powys.

“Ond rydan ni wedi dweud o’r dechrau bod rhannau gwahanol o’r amserlen yno i gyflawni gwahanol nod.

“Mae eisiau i’r gwasanaeth roi man cartrefol i bobol sy’ efallai yn llai rhugl, yn llai hyderus eu Cymraeg. Rydan ni’n dal i glywed drwy’r amser pobol yn dweud ‘Dw i ddim yn mynd i gymryd rhan mewn rhaglenni achos dyw’n Gymraeg i ddim ddigon da’.”

Recordiau Saesneg – ‘byth mwy na chwech mewn pnawn’

Mae’r canwr Dewi Pws yn gwrthod ymddangos ar Radio Cymru oherwydd bod recordiau Saesneg yn cael eu chwarae, gan ddweud bod y sefyllfa bresennol yn ‘torri ei galon’.

Ond yn ôl y golygydd, mae mwy o gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae ar yr orsaf dan y drefn newydd, a dim mwy na chwe record Saesneg y dydd ar raglen Tommo.

“Mae yna lawer mwy o gerddoriaeth Gymraeg nawr…r’yn ni’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg nawr yn gynt yn y bore, ac r’yn ni’n chwarae llawer mwy o gerddoriaeth yn y pnawn.”

Cyfweliad llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.