Pontio Prifysgol Bangor
Cwmni penseiri o Lundain sydd wedi cael £25,000 o gomisiwn i gynllunio tu mewn i un o loriau canolfan Pontio ym Mangor.

Bydd Feix&Merlin yn cynllunio calon tri-deimensiwn ar lawr Undeb y Myfyrwyr yng nghanolfan Pontio, fydd yn agor ym mis Medi.

Bydd y ganolfan yn cynnwys theatr, sinema, ystafelloedd darlithio a bar a chaffi.

Mae Prifysgol Bangor wedi cael £15m gan Lywodraeth Cymru a £12.5 miliwn gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop i godi’r adeilad, sy’n agor fis Medi ar gost o £40 miliwn.

Calon

Canolbwynt cynllun Feix&Merlin ar gyfer llawr yr Undeb yw calon 3-deimensiwn sy’n cynnwys bocsys negeseuon, cyfleusterau storio a silffoedd, a dwy haen fydd yn gallu cael eu symud ar olwynion i greu seddau ar gyfer seminarau neu sgyrsiau i gynulleidfa fach.

Dywedodd Tarek Merlin o Feix&Merlin mai’r bwriad yw “sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn rhywle arbennig, croesawus a chynhwysol.”

“Rydym wedi creu gweithleoedd hyblyg fel y gall y myfyrwyr eu hunain ddewis sut maent eisiau eu defnyddio.  Gall fod yn lle i grwpiau gynnal cyfarfodydd, digwyddiadau a gwylio ffilmiau neu ddim ond rhywle i gymdeithasu yn ogystal â llefydd dirgel a chorneli tawel i bobl eu darganfod a’u defnyddio,” meddai Tarek Merlin.

Dywedodd ymgynghorydd celf gyhoeddus Pontio, Bedwyr Williams:

“Roedd fy syniad i o’r hyn y dylai Undeb Myfyrwyr fod yn hen-ffasiwn braidd.  Mae sgôp gwaith Undeb y Myfyrwyr yn enfawr a dwi’n meddwl y bydd y comisiwn yma’n broject cyffrous iawn.”