Bannau Brycheiniog
Mae adrannau cynllunio parciau cenedlaethol Cymru yn “annheg” ac fe ddylai eu grym gael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol.

Dyna ddywedodd aelod o Undeb Amaethwyr Cymru heddiw, gan ychwanegu bod tair adran gynllunio ychwanegol y parciau cenedlaethol yn “wastraff o arian cyhoeddus”, a bod angen rhoi eu gwaith yng ngofal adrannau cynllunio’r cynghorau sir perthnasol.

Yn ôl cyn-ddirprwy lywydd y mudiad, Glyn Powell, mae “anghysondeb” yn y ffordd mae’r tri pharc cenedlaethol yn delio hefo ceisiadau cynllunio ac mae pobol yn anhapus gyda’u penderfyniadau.

Ond mae’r Parciau yn mynnu nad oes sail i’r pryderon.

‘Dim dealltwriaeth’

Wrth gyfeirio yn benodol ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dywedodd Glyn Powell:

“Mae parc Bannau’r Brycheiniog yn ymestyn dros rannau o saith sir. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y byddai’n well i’r siroedd yma gymryd cyfrifoldeb eu hunain am y ceisiadau cynlluniau.

“Mae mwyafrif o bobol Sir Frycheiniog yn anhapus ac yn credu mai pobol sydd heb ddealltwriaeth o’u hardal sy’n cynrychioli’r penderfyniadau.”

‘Pobol yn hapus’

Yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru’r bore yma, dywedodd Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, bod “93% sy’n ceisio am ganiatâd cynllunio yn dweud eu bod yn hapus neu’n fwy na bodlon efo’r gwasanaeth maen nhw’n ei gael”.

Ac meddai llefarydd ar ran Parciau Cenedlaethol Cymru:

“Mae gan y system gynllunio rôl ganolog wrth drosglwyddo dibenion y Parciau Cenedlaethol a sicrhau cysondeb yn yr ymagwedd at reoli defnydd tir yn yr ardaloedd hyn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.  Nid oes unrhyw dystiolaeth nac unrhyw achos argyhoeddiadol y gellir eu cynnig i awgrymu y byddai uno gwasanaethau cynllunio Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gydag Awdurdodau Lleol eraill yn cynnig gwell gwerth am arian cyhoeddus, nac y byddai dibenion y Parciau Cenedlaethol yn cael eu trosglwyddo’n fwy effeithiol, a daeth Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus i’r casgliad hwn yn gynharach eleni.

Yn wahanol i rai Awdurdodau Cynllunio Lleol sydd heb gwblhau eu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) eto, cymeradwywyd CDLlau pob un o’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, ac fe’u mabwysiadwyd, gan ddarparu canllawiau polisi clir i ddatblygwyr a chaniatáu bod modd rhoi ffocws clir ac ymagwedd gydlynol i ddibenion y Parciau Cenedlaethol. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn fwy positif tuag at ddatblygiad nag erioed, ac mae canran y ceisiadau cynllunio sy’n cael y golau gwyrdd ar lefel uchel – gyda dros 85% o’r ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn cael eu cymeradwyo.

Daeth astudiaethau diweddar hefyd i’r casgliad fod Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu £500  miliwn y flwyddyn i economi Cymru a bod 95% o bobl yng Nghymru yn teimlo bod Parciau Cenedlaethol yn bwysig – ac felly rydym yn dadlau bod gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gyfrifoldeb mawr tuag at ddatblygiad economaidd.

Wrth i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, sy’n weddol fach eu maint, drosglwyddo gwasanaethau cynllunio, mae yna fuddion pendant, ac mae’r gallu i gynnig perthnasoedd gweithio agos gyda’n cymunedau a’n partneriaid yn un o’r nifer o fanteision.  Ar sawl achlysur rydym wedi cynnig cwrdd ag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod eu pryderon penodol, ond hyd yn hyn ni dderbyniwyd ein cynnig.