Y dwymyn goch
Mae mwy o achosion o’r dwymyn goch (scarlet fever) wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau’r flwyddyn hon na’r holl achosion o’r flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 379 o achosion o’r haint wedi bod yng Nghymru eleni, o’i gymharu â 186 y llynedd.

Cyhoeddwyd ar 11 Mawrth fod 139 o achosion yng Nghymru, ond bu i hynny ddyblu o fewn cyfnod o bedair wythnos. Roedd y mwyafrif o’r achosion yn ardal Abertawe ym mis Mawrth.

Dyma oedd y nifer uchaf o achosion ers 24 mlynedd.

Symptomau

Yn dilyn y cynnydd yn nifer yr achosion, cafodd llythyr ei anfon i benaethiaid ysgolion yr wythnos diwethaf yn esbonio sut i adnabod symptomau’r dwymyn goch.

Heintiad sy’n cael ei achosi gan y bacteria Streptococcus pyogenes yw’r dwymyn goch. Mae’n eithriadol o heintus a gall y symptomau gynnwys dolur gwddw, cur pen, twymyn, cyfog a thaflu i fyny, cyn i’r frech goch ddatblygu ar ôl 12 i 48 awr.

Mae yna risg bychan o ddatblygu cymhlethdodau fel heintiad y glust, casgliad yn y gwddw, niwmonia, llid y sinysau neu lid yr ymennydd yng nghyfnodau cynnar yr heintiad.

Cynghorir unrhyw un sydd eisiau triniaeth neu wybodaeth bellach i gysylltu â’u meddyg teulu.