Carwyn Jones
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio ymateb Carwyn Jones i’r Gynhadledd Fawr fel “ffars lwyr”, gan ddweud y “bydd ymgyrch weithredu’r mudiad yn dwysáu”.

Roedd y Prif Weinidog yn ymateb y prynhawn ‘ma, i ddau adroddiad annibynnol wedi’u hanelu at gryfhau’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru – Adolygiad o Waith y Mentrau Iaith yn ogystal ag adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae ymateb y Llywodraeth yn gwrthod argymhellion allweddol megis sicrhau bod addysg Gymraeg i bob disgybl a sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweithio’n fewnol yn y Gymraeg.

Dywedodd y mudiad nad oes chwaith addewid y bydd rhagor o adnoddau yn mynd i’r Mentrau Iaith, er gwaethaf galwad clir am fwy o fuddsoddiad yn y Gynhadledd Fawr.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith, Simon Thomas, hefyd wedi dweud bod angen “gweithredu mewn ffordd radical os ydym o ddifri am atal y dirywiad yn y Gymraeg”.

‘Carwyn Jones yn dal i oedi’

“Mae ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa gymunedol y Gymraeg yn ffars lwyr”, meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Maen nhw wedi dewis anwybyddu neu wrthod yr argymhellion fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth – ni fydd mân newidiadau i drefniant gweinyddol y mentrau iaith yn sicrhau twf i’r Gymraeg ar lawr gwlad.

“Felly, bydd ein hymgyrch weithredol yn erbyn Llywodraeth Cymru yn parhau ac yn dwysáu dros y misoedd nesaf.

‘Rhaid gweithredu mewn ffordd radical’

Yn ôl Simon Thomas: “Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir am yr angen i weithredu mewn ffordd wahanol a mwy radical os ydym o ddifri am atal y dirywiad yn y Gymraeg.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru eisoes wedi cymryd y camau hyn i gryfhau’r cyfleoedd sydd gan bobl i fyw eu bywydau yn yr iaith o’u dewis, ac i sicrhau bod statws y Gymraeg fel iaith swyddogol yn cael ei amddiffyn trwy gyflwyno safonau iaith cryf.”

‘Ymrwymiad i’r Gymraeg’

Wrth siarad yn y Senedd prynhawn ma dywedodd Carwyn Jones: “Rydym yn parhau yn ein hymrwymiad i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru a chomisiynwyd yr adroddiadau hyn i’n helpu i ddeall sut orau i fynd ati.

“Byddaf yn cyflwyno datganiad polisi yn hwyrach yn y gwanwyn a fydd yn tynnu ynghyd ganfyddiadau’r holl adolygiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar yn ogystal â’r Gynhadledd Fawr. Bydd y datganiad yn nodi’n gweledigaeth ar gyfer yr iaith ac yn darparu sail gadarn ar gyfer ein gwaith dros y tair blynedd nesaf.”

‘Dim 1847 yw hi’ medd Carwyn Jones

Yn y cyfamser mae Carwyn Jones wedi dweud  ar lawr y Senedd heddiw ei fod wedi ei “drwblu’n fawr” gan bobol sy’n rhoi’r bai ar yr iaith Gymraeg am bopeth.

Roedd yn cyfeirio at erthyglau diweddar ym mhapurau newydd Llundain sydd wedi bod yn “rhoi’r fath o farn taw’r iaith Gymraeg yw problem Cymru, bod ’na broblemau yng Nghymru o achos y ffaith fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg.”

Ychwanegodd fod hyn yn “hollol anghywir.”

“Nid 1847 yw’r flwyddyn, ac mae’r Gymraeg yn rhywbeth y gallwn ni ddathlu a’i chefnogi,” meddai’r Prif Weinidog.