Mae ymgyrch wedi’i sefydlu i ail-agor cysylltiadau rheilffordd yng ngorllewin Cymru.

Lansiwyd Traws Link Cymru mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar, gyda’r bwriad o adfer rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth, a rhwng Afon Wen ar Lein Arfordir y Cambrian a Bangor.

Cafwyd cefnogaeth ystod eang o drigolion a chynrychiolwyr ar hyd yr hen lein a gaeodd yn yr 1970au.

Y nod yw cysylltu’r tair tref prifysgol er budd economi, cymdeithas ac amgylchedd Gorllewin Cymru, ac yn y pendraw ymestyn ar hyd yr arfordir i gysylltu’r De a’r Gogledd.

Codi stêm

Bu trafodaeth ar lawr y Senedd gyda Simon Thomas AC  yn cyflwyno Dadl Fer ddoe i drafod yr ymgyrch.

Mae Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones hefyd wedi codi’r mater yn y Cynulliad mewn cwestiynau i’r gweinidog, ac mae Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams wedi nodi ei gefnogaeth.

Fe fydd y cyfarfod nesa i drafod yr ymgyrch yn cael ei gynnal yn Neuadd Victoria, Llambed ar 20 Mawrth am 7.30 yr hwyr.