Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi lansio papur i wella safon y gofal yng Nghymru sy’n cynnig cael gwared â’r saith bwrdd iechyd cyfredol, a chreu un bwrdd cenedlaethol.
Byddai hyn yn ffordd “radical” o wella safon y gofal yng Nghymru, yn ôl y blaid, a byddai’n cyflwyno gwasanaethau cynaliadwy hir dymor ar gyfer y dyfodol.
Mae’r papur yn amlinellu dwy ffordd o uno iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a fyddai’n cyflwyno gwasanaethau ysbyty a rhai arbenigol, megis canser.
Y dewis cyntaf yw dileu’r saith Bwrdd Iechyd Lleol presennol a rhoi un Bwrdd Cenedlaethol yn eu lle. Dan y model hwn, byddai gofal iechyd sylfaenol a chymunedol yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â gwasanaethau cymdeithasol gan awdurdodau lleol, medd Plaid Cymru.
Yr ail ddewis yw gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion. Byddai’r gwasanaeth yn dod yn gyfrifoldeb y saith Bwrdd Iechyd Lleol sydd am weld Byrddau Iechyd yn cael eu gwneud yn fwy “democrataidd ac atebol”, yn ôl y blaid.
‘System fwy deinamig’
Ar hyn o bryd mae saith bwrdd iechyd yn rheoli’r gofal yng Nghymru.
Yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Elin Jones, mae’r model presennol yn gwrthdaro dros feysydd cyfrifoldeb ariannol ac eisoes wedi cael ei feirniadu’n llym.
“Mae a wnelo’r cynigion hyn â integreiddio’r system fel bod gennym wasanaeth mwy deinamig o lawer,” meddai Elin Jones.
“Mae’n amlwg bod y model presennol o iechyd a gofal cymdeithasol yn rhy letchwith o lawer. Mae gormod o ffiniau yn y system sydd yn achosi biwrocratiaeth ddiangen sydd yn arwain at oedi wrth drosglwyddo cleifion trwy’r broses o wella.
“O ganlyniad, mae rhwystrau yn y system sydd yn costio arian ac amser i ni.
“Mae diwygio tameidiog fel sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru, yn gam tymor byr fydd yn arwain at fethiant yn y pen draw.
“Daeth yn bryd gweithio yn glyfrach, cydweithio mwy a rhoi anghenion y cleifion yn gyntaf. Yr unig ffordd i wneud hyn yw trwy greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol newydd,” meddai.