Mackay a Bellamy
Bydd perchennog Caerdydd Vincent Tan yn penderfynu heno a fydd yn rhoi’r sac i’r rheolwr presennol cyn neu ar ôl y gêm yn erbyn Lerpwl, yn ôl adroddiadau.

Mae safle Malky Mackay yn ymddangos yn fwy a fwy bregus wrth i’r oriau basio, gyda’r BBC yn dweud mae ‘pryd’, yn hyrach nag ‘os’, yw hi o ran rhoi’r sac iddo.

Bellach mae’r rhan fwyaf o fwcis wedi stopio cymryd betiau ar y rheolwr nesaf o’r Uwch Gynghrair i golli’i swydd, cymaint yw’r gred mai mater o amser yw hi nes i Mackay fynd.

Ac yn ôl papur y Telegraph, mae sôn bod Craig Bellamy yn cael ei ystyried fel rheolwr dros dro ar y tîm nes i’r clwb benodi rhywun parhaol yn lle Mackay.

Cyfle i Craig?

Ar hyn o bryd mae disgwyl i Mackay o leiaf barhau yn rheolwr nes yfory wrth i Gaerdydd baratoi i herio Lerpwl yn Anfield.

Ond mae Bellamy wrthi’n gwneud ei fathodynnau hyfforddi ar hyn o bryd, ac ar ôl cael ei gysylltu â swydd Cymru ychydig fisoedd yn ôl pan oedd ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Chris Coleman, mae posib y byddai’n cael ei ystyried fel ateb dros dro petai Mackay’n mynd yn y dyddiau nesaf.

Enw mawr yn yr het

Mae’r BBC yn adrodd fod rheolwr o fri sydd gyda chlwb Prydeinig ar hyn o bryd yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd – o bosib Harry Redknapp sydd yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd gyda QPR.

Fe awgrymon nhw’n gynharach fod y rheolwr o Dwrci, Yilmaz Vural, yn enw posib arall ond dyw e bellach ddim yn cael ei gysylltu â’r swydd.

Solksjaer i sefyll?

Un rheolwr sydd wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau am swydd wag yn Uwch Gynghrair Lloegr yw cyn-ymosodwr Manchester United Ole Gunnar Solksjaer sydd bellach yn rheolwr ar Molde yn ei wlad enedigol Norwy.

Mae Solksjaer yn un o’r ffefrynnau i olynu Mackay petai yn cael y sac, gyda Molde eisoes wedi cadarnhau bod clwb o Brydain wedi cysylltu â nhw ynglŷn â’r posibilrwydd o’i benodi, yn ôl y Daily Mail.

Ond ni wnaeth y clwb gadarnhau pwy oedd wedi gofyn yn ei gylch – gyda West Brom a Tottenham Hotspur hefyd yn chwilio am reolwyr newydd ar hyn o bryd.

Pedwar ar y rhestr

Yn ôl adroddiadau Sky Sports, mae’r clwb wedi cysylltu gyda hyd at bedwar ymgeisydd posib yn barod er mwyn asesu’u hopsiynau os bydd Mackay yn gadael – er na wnaethon nhw enwi’r un ohonyn nhw.