Don Touhig
Heddiw yw diwrnod olaf ymgyrch y Refferendwm, gyda’r ddwy ochr yn addo un ymdrech ola’.

Ac mae un o gyn-weinidogion Swyddfa Cymru wedi ymyrryd i ddweud y bydd yn pleidleisio’n erbyn cryfhau pwerau deddfu’r Cynulliad.

Yn ôl Don Touhig, cyn-AS Islwyn, dyw’r corff ddim yn ddigon aeddfed eto i gael hawl i ddeddfu heb ofyn am ganiatâd gan y Senedd yn San Steffan.

Roedd y gwleidydd, sydd bellach yn arglwydd Llafur, wastad yn cael ei ystyried yn un o’r ‘amheuwyr’ ac yn un o’r rhai a roddodd bwysau i fynnu bod rhaid cael refferendwm.

Mae cefnogwyr Na wedi addo y bydd y mochyn pinc sy’n symbol o’u hymgyrch yn gwneud un ymddangosiad arall.

Rhodri’n dweud ‘Ie’

Fe fydd yr ymgyrch Ie yn poeni mwy am lefel y bleidlais; maen nhw wedi croesawu’r un ig bôl piniwn diweddar sy’n dangos eu bod ymhell ar y blaen, ond mae yna bryder y bydd y bleidlais yn isel fory.

Annog pobol i bleidleisio fydd y brif neges wrth i gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ymuno gyda Chadeirydd yr ymgyrch, Roger Lewis, mewn cynhadledd i’r wasg ac yna cyrch canfasio yng nghanol Caerdydd.