Mae’r elusen Missing People wedi trefnu gwasanaeth carolau yng Nghaerdydd heno i gofio pobol sydd ar goll y Nadolig yma.

Bydd y gwasanaeth yn cofio am y plant a’r oedolion sydd ar goll yn ne Cymru ac fe fydd rhai o deuluoedd yr unigolion hynny yn bresennol.

Cynrychiolydd teuluol Missing People yng Nghymru yw Rachel Elias, chwaer Richard Edwards – gitarydd y band Manic Street Preachers – a fu ar goll ers 1995.

‘Hunllef waethaf pob teulu’

Dywedodd Rachel: “Hunllef waethaf pob teulu yw pan fod rhywbeth fel hyn yn digwydd.

“Rwy’n gobeithio bydd y gwasanaeth carolau yma’n gyfle i bobl dinas Caerdydd ddod at ei gilydd, ac rwy’n annog pawb sydd am fod yn rhan o’r digwyddiad i gysylltu â ni.”

Ychwanegodd Martin Crosby, Rheolwr Ymgyrchu Lleol yr elusen: “Bydd yr arian a fydd yn cael ei gasglu drwy’r digwyddiad yn gymorth i’r elusen gadw ati i gynnig llinell gymorth i’r rhai sydd ar goll yng Nghymru a thrwy Brydain.”

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghapel y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd am 7yh heno. Mae manylion pellach i unrhyw un sydd eisiau bod yn bresennol gan Martin Crosby ar 07872601681 neu drwy e-bost ar martin.crosby@missingpeople.org.uk.