Fe ddylai pwerau ychwanegol gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru er mwyn penderfynu pa gwmnïau fydd yn darparu gwasanaeth trên yng Nghymru, pan fydd y fasnachfraint rheilffyrdd presennol yn dod i ben yn 2018.

Dyma yw un o argymhellion adroddiad gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad.

Yn ogystal mae aelodau’r pwyllgor wedi awgrymu y dylai gwasanaethau trên gael eu hintegreiddio gyda bysiau a ffyrdd eraill o deithio yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad ar ddyfodol masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn cael ei lansio heddiw yng ngorsaf drenau Henffordd – lleoliad sydd wedi ei ddewis i bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau sy’n croesi’r ffin a Lloegr.

‘Cyswllt mewnol ac allanol’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth, Dafydd Elis-Thomas:

“Dengys ymchwiliad y pwyllgor fod y pwyslais ar baratoi am y fasnachfraint nesaf yn dod o’r tu mewn i Gymru.

“Rydym bellach yn disgwyl datganiad am ddatganoli pwerau pellach dros reilffyrdd yn 2014.

“Bydd hyn yn galluogi Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i gynllunio dyfodol gwasanaethau a seilwaith rheilffyrdd mewn modd fydd yn integreiddio rheilffyrdd gyda bysus a dulliau eraill o deithio.

“Rydym hefyd yn croesawu’r posibilrwydd y gall Llywodraeth Cymru gymryd mwy o ran mewn prynu cerbydau ac ati.

“Y dasg allweddol yw cysylltu Cymru yn fewnol ac allanol mewn modd sy’n gynaliadwy, yn ddeniadol i’r teithiwr, ac yn fforddiadwy.”