Mae adroddiad gan gyn-gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan wedi awgrymu y gallai pedwar llu heddlu Cymru uno yn y dyfodol.
Dywed adroddiad yr Arglwydd Stevens ar gyfer y Blaid Lafur nad yw’r strwythur plismona yng Nghymru a Lloegr yn cynnig ‘gwerth am arian’.
Mae’r adroddiad hefyd yn argymell rhoi’r gorau i’r system Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a gafodd ei gyflwyno’r llynedd.
Yn ôl yr Arglwydd Stevens mae’r system o gynnal 43 llu yng Nghymru a Lloegr yn ‘anghynaladwy’
Awgrymodd y gallai Heddlu’r De, Heddlu’r Gogledd, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent uno i ffurfio llu newydd ar gyfer Cymru.
Yr opsiynau eraill, yn ôl yr Arglwydd Stevens, yw ffurfio un llu ar gyfer Cymru a Lloegr neu uno nifer o luoedd gwahanol i gwtogi nifer y lluoedd o 43 i 10.
Cafodd wyth llu heddlu eu huno yn yr Alban i ffurfio Heddlu’r Alban ym mis Ebrill eleni.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw’n ystyried argymhellion yr adroddiad ond does dim rhaid iddyn nhw roi ar waith unrhyw un o’r awgrymiadau.
Cafodd yr adroddiad ei sefydlu gan y Blaid Lafur yn 2011.