Llwybr Arfordir Cymru
Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi denu bron i 13 miliwn o ymwelwyr gan gyfrannu £32miliwn at economi’r wlad yn ôl arolygon sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r Arolwg i Ymwelwyr a’r Arolwg Buddiannau Busnesau gan Ymchwil Beaufort ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn honni bod pobl a theuluoedd sy’n ymweld â Llwybr yr Arfordir wedi rhoi hwb economaidd gwerth £32.3 miliwn i drefi a phentrefi ar hyd arfordir Cymru rhwng mis Hydref 2012 a mis Medi 2013.

Yn ôl yr arolygon y dewis mwyaf cyffredin gan ymwelwyr (41%) oedd aros dros nos mewn gwersylloedd neu feysydd carafanau. Ar gyfartaledd, gwariodd ymwelwyr £57.20 ar lety yn ystod y cyfnod hwn.

Ar gyfartaledd, gwariodd pob grŵp £21.05 yn yr ardal leol, ac eithrio llety.

‘Codi proffil rhyngwladol Cymru’

Dywedodd John Griffiths y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: “Mae’r Llwybr nid yn unig yn helpu i godi proffil rhyngwladol Cymru, ond mae hefyd yn hybu economi’r wlad trwy wariant twristiaid ac yn denu ymwelwyr newydd i’n trefi a’n pentrefi arfordirol.

“Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi i wella’r Llwybr fel bod ymwelwyr yn cael profiadau da ohono a bod pobl, cymunedau a busnesau lleol yn elwa ar fod yn gysylltiedig ag ef.”

870 milltir

Wedi’i agor yn swyddogol ym mis Mai 2012, Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr di-dor cyntaf yn y byd sy’n ymestyn o amgylch arfordir gwlad gyfan – sef 870 milltir rhwng yr Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint i Gas-gwent yn y de.

Cafodd y prosiect ei sefydlu yn 2007 ac agorodd y Llwybr yn 2012. Dros y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10.5 miliwn, a £3.9 miliwn ychwanegol wedi dod o  gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Mae £1.15 miliwn ychwanegol o gyllid y Llywodraeth wedi cael ei ddyrannu eisoes ar gyfer 2013/2014 a 2014/2015 i sicrhau bod gwahanol rannau o’r Llwybr wedi’u halinio’n well gyda’i gilydd ac i ddarparu gwybodaeth.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynlluniau ar gyfer rheoli’r Llwybr pan fydd y rhaglen gwella sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn dod i ben yn 2015.

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “P’un ai ydych am roi cynnig ar yr 870 milltir i gyd neu ran ohono, fe allwch chi wir fwynhau arfordir ysblennydd Cymru a gwella’ch iechyd ar yr un pryd.”