Josh Double
Mae aelod ieuengaf tîm bad achub yr RNLI yn y Mwmbwls ger Abertawe wedi cael ei ganmol am achub dau o ymwelwyr – ddiwrnod yn unig ar ôl iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 17 oed.

Roedd Josh Double ar fwrdd y bad achub ar ôl derbyn adroddiadau bod cwpl o Ffrainc wedi mynd i drafferthion yn y môr.

Cafodd y cwpl eu hachub a’u cludo i’r lan yn y bad achub.

Mae Josh Double, sy’n ddisgybl yn Ysgol Olchfa, yn dilyn ôl troed ei dad Martin, sy’n gweithio’n llawn amser yng ngorsaf yr RNLI yn y Mwmbwls.

Dywedodd un o griw’r bad achub, James Bolter, eu bod nhw’n hynod o falch o Josh.

“Mae wedi treulio llawer o amser yn yr orsaf dros y misoedd diwethaf ac roedd yn awyddus iawn i gael mynd allan ar y bad achub.

“Mae’r criw i gyd yn wirfoddolwyr ond ry’n ni yn tynnu ei goes pan mae’n dod i’r orsaf yn ei wisg ysgol.”

Dywedodd Josh Double ei fod wedi mwynhau ei brofiad cyntaf yn y bad achub ac yn edrych ymlaen at ddysgu rhagor gan weddill y criw a helpu i gadw pobl yn ddiogel ar y môr.