Mae’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi Bil Tai cyntaf Cymru sy’n cynnwys rhaglen i geisio mynd i’r afael a digartrefedd, sicrhau cartrefi fforddiadwy a chodi safonau yn y sector rhentu preifat.

Dywedodd Carl Sargeant: “Mae cartref cysurus, fforddiadwy yn rhan hanfodol o fywyd pawb. Mae’r manteision yn mynd tu hwnt i’r to sydd uwch ein pennau – mae’n ganolog i iechyd a lles pawb.

“Mae cartrefi da’n rhoi’r cychwyn gorau posibl i blant ac yn sylfaen ar gyfer cymunedau cryf, diogel a theg. Maen nhw’n bwysig i’r economi hefyd. Wrth adeiladu tai newydd a gwella’r tai sydd gennym eisoes, rydym yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfloed hyfforddi gwerthfawr.

“Er gwaethaf effeithiau’r mesurau caledi a phenderfyniadau cyllidebol Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o wella’r cyflenwad tai, ei ansawdd a’i safon ac mae cynigion y Bil Tai hwn yn hollbwysig ar gyfer cyflawni hynny.”

Cynigion

Mae’r Bil yn nodi cyfres o gynigion deddfwriaethol sy’n cynnwys:

  • Helpu pobl i gael cartref cysurus a fforddiadwy a sicrhau bod y rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
  • Codi safonau yn y sector rhentu preifat a rhoi mwy o bwyslais ar weithredu i atal digartrefedd.
  • Rhoi’r grym i awdurdodau lleol gyflwyno cyfradd uwch o dreth gyngor ar gartrefi gwag os ydyn nhw’n dymuno.
  • Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd i gymunedau Sipsiwn a Theithwyr lle bo angen.
  • Helpu i ehangu tai cydweithredol fel ffordd arall o gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.
  • Gosod safonau i’r awdurdodau lleol hynny sy’n cadw eu stoc tai, ar gyfer rhenti, taliadau gwasanaeth ac ansawdd y llety a’u helpu i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
  • Diddymu System Cymhorthdal y Refeniw Tai er mwyn galluogi’r awdurdodau sydd wedi cadw eu stoc tai i ddod yn hunangyllidol.