Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 46 oed o Landudno sydd ar goll.

Nid yw David Richard Owen wedi cael ei weld ers dydd Sadwrn 16 Tachwedd.

Nid yw ei deulu na’i ffrindiau wedi clywed ganddo ers hynny.

Dywed yr heddlu bod David Owen yn gyrru car Vauxhall Astra coch, â rhif cofrestru CX51 YUH, ac mae’n bosib ei fod yn cysgu yn y car a allai fod yn ardal gogledd Cymru neu Sir Gaer.

Mae tua 5’10” neu 5’11’’ o daldra, o faint canolig gyda gwallt brown byr sy’n britho.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 10598.