Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn cyfarfod â chorff ymbarel sy’n cynrychioli mudiadau Cymraeg.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw gan Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn dweud fod Carwyn Jones wedi “ymateb yn gadarnhaol” i’w cais am gyfarfod i drafod y gyllideb ddrafft.

Mae’r Mudiadau’n hyderu y bydd modd gwneud hyn cyn y bleidlais ar y gyllideb ddrafft ym Mae Caerdydd ar Rhagfyr 10.

Daw’r newyddion wrth i’r Prif Weinidog baratoi i wneud datganiad yn y Cynulliad am ei ymateb cychwynnol i’r Gynhadledd Fawr.

“Roedd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn bryderus o weld bod y gyllideb ddrafft yn awgrymu cwtogi ar y buddsoddiad ar gyfer yr iaith Gymraeg, ac yn benodol o safbwynt dysgu Cymraeg,” meddai Penri Williams, Cadeirydd, Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.

“Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg o’r farn y dylai gwariant ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg gael ei flaenoriaethu wrth i ni fel gwlad ymateb i ffigurau pryderus y Cyfrifiad ac wrth i ni edrych ymlaen at weld ymateb y Llywodraeth i’r Gynhadledd Fawr a gynhaliwyd yn yr haf.

“Adeg y Gynhadledd Fawr, galwodd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg ar i’r Llywodraeth gynyddu’r gwariant ar brosiectau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg i 1% o’i chyllideb dros amser, gan ddadlau bod angen buddsoddiad yn yr iaith sy’n cyfateb i’r cyllid a fuddsoddir yn y Fasgeg yng Ngwlad y Basg,” meddai Penri Williams eto.

“Byddai unrhyw doriad i’r cyfeiriad arall yn andwyol, yn enwedig o gofio bod arolygon wedi eu comisiynu sy’n galw am fwy o wariant ar eitemau penodol.”