Gareth Thomas
Mae yna ragor o chwaraewyr rygbi sy’n cuddio’r ffaith eu bod nhw’n hoyw, meddai cyn-gapten Cymru, Gareth Thomas.

Mewn cyfweliad teledu wrth i’r gwaith ddechrau ar ffilm amdano, mae’r cyn asgellwr yn dweud ei fod eisiau iddi fod yn ysbrydoliaeth i eraill.

Yn y cyfweliad, mae’n sgwrsio gyda chyn chwaraewr Lloegr, James Haskell, am y ffaith fod rhagor o chwaraewyr sy’n ofni dilyn ei esiampl a dweud ar goedd eu bod yn hoyw.

‘Mi faswn i’n mynd i Rwsia’

Ond mae Gareth Thomas hefyd yn dweud na fyddai’n gwrthod mynd i wlad fel Rwsia lle bydd Gêmau Olympaidd y Gaeaf y flwyddyn nesa’ a lle mae’r llywodraeth yn cael ei chyhuddo o sathru ar hawliau pobol hoyw.

“Pe bawn i’n rhan o sgwad yn mynd i’r gwledydd yna – fydden i’n mynd yno yn ddyn hoyw ac yn bod y gorau yn fy nghamp a dangos na all eu cyfreithiau fy atal i rhag bod y gorau,” meddai ar Sportslobster TV.

Y ffilm

Fe gadarnhaodd fod y gwaith cyn-ffilmio wedi dechrau ar ffilm o’i fywyd a’i benderfyniad i gyhoeddi ei fod yn hoyw.

Mae wedi canmol y seren Hollywood, Mickey Rourke, am fuddsoddi miliynau yn y ffilm am ei fywyd ac am ymarfer yn galed i action ei gymeriad.

“Mae pobol yn ennill nerth o fy stori ym mhob maes … i fi, dyma gyfrwng arall i bobol gael eu hysbrydoli a dyna sy’n bwysig i fi.”

  • Clwb o Gaerdydd sydd wedi ennill Gwobr Chwaraeon y mudiad hawliau hoyw Stonewall eleni.

Fe lwyddodd Llewod Caerdydd i guro clwb pêl-droed Arsenal a’r gyflwynwraig deledu Claire Balding am eu gwaith yn “herio stereoteipiau a chefnogi pobol hoyw ym myd chwaraeon”.