Mae’r A470 bellach wedi ei hagor ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys heddiw.

Digwyddodd y ddamwain am tua 9.30 y bore ar ffordd yr A470 trwy bentre’ Llandefalle ger Talgarth.

Roedd yn rhaid i’r gwasanaethau brys achub tri o bobol a oedd yn sownd yn y ceir, ac fe gafodd y tri eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.