Mae Undeb Athrawon yn gweld pwysigrwydd cael pwnc  cyfrifiadurol newydd mewn ysgolion gan ddweud bod y pwnc “heb gael digon o sylw” yn y gorffennol.

Mae adroddiad newydd wedi galw am greu pwnc newydd o’r enw Cyfrifiadureg i gael ei ddysgu mewn ysgolion yn hytrach na thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru: “Mae hwn yn bwnc sy’n gynyddol bwysig o ran cyfleodd gwaith ac yn bwnc hefyd sydd efallai sydd heb gael digon o sylw dros y blynyddoedd – ond y gamp yw ei gadw ar flaen y gad a’i wneud yn berthnasol i blant a phobl ifanc.

Pwnc craidd

Ychwanega’r adroddiad, a oedd yn edrych ar ddyfodol Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a gwyddoniaeth cyfrifiaduron mewn ysgolion yng Nghymru,  y dylai’r pwnc newydd gael ei ddysgu ochr yn ochr â Chemeg, Ffiseg a Bywydeg fel pwnc craidd gwyddoniaeth.

Meddai UCAC: “Mae sawl adolygiad diweddar ar bynciau amrywiol o Hanes Cymru i Ymarfer Corff wedi dweud y dylen nhw fod yn bynciau craidd ac felly mae’n rhaid blaenoriaethu rhywsut.

“Gan fod adolygiad gan Lywodraeth Cymru o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Threfniadau Asesu yn digwydd ar hyn o bryd, rwy’n siŵr y bydd yr adroddiadau diweddar yn bwydo i mewn iddo.”

Cafodd yr adroddiad ei greu gan gwmni meddalwedd Box Uk ac meddai y dylai’r pwnc gael ei ddysgu i blant mor ifanc â phum mlwydd oed er mwyn eu paratoi am y dyfodol fel eu bod nhw’n gallu cael swyddi mewn diwydiant digidol sy’n tyfu’n flynyddol.