O fewn yr awr ddiwethaf mae adroddiad gan Grŵp Adolygu Annibynnol i Lywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi, sy’n dweud yn blaen bod dysgu Cymraeg Ail Iaith yn ein ysgolion yn fethiant trychinebus.

Meddai’r adroddiad: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro. Ond mae cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

Argymhelliad

Mae’r Grŵp Adolygu yn argymell dysgu mwy o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, ar wahân i’r Gymraeg ei hun, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Argymhellir creu “… un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant. O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith…[dylid] gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”

Galw am weithredu ar frys

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n astudio’r adroddiad yn ofalus cyn ymateb.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi galw ar y Prif Weinidog i weithredu ar frys.

Meddai’r Cadeirydd Robin Farrar; “Mae angen i Carwyn Jones gymryd cyfrifoldeb am dderbyn a gweithredu’r argymhellion yn syth, gan fod y mater yma mor bwysig i gyflwr y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod…Mae’n annheg mai dim ond lleiafrif o bobl ifanc sy’n cael cyfle i gael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a hynny trwy hap a damwain daearyddol a dewis eu rhieni”

Awduron yr adroddiad

  • Yr Athro Sioned Davies, Cadeirydd – Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
  • Aled Evans – Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
  • Aled Loader, Pennaeth Adran y Gymraeg, Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant, Casnewydd.
  • Elaine Senior, Ymgynghorydd Cymraeg Annibynnol Dysgu Oedolion.
  • Elen Roberts, Arweinydd Tîm Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg, Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru 
  • Eleri Jones, Pennaeth, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
  • Shoned Wyn Jones, Pennaeth y Gyfadran Gymraeg a Ieithoedd Modern, Ysgol John Bright, Llandudno.
  • Susan Gwyer-Roberts, Pennaeth, Ysgol Cil-y-Coed, Sir Fynwy.

Linc i’r adroddiad: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/wagreviews/one-lanuage-for-all/?lang=cy