Ysgol Pwll Coch
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Caerdydd i beidio agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd yn un ‘cywilyddus’.

Daeth tua 50 o ymgyrchwyr at ei gilydd y tu allan i swyddfeydd y Cyngor i brotestio yn erbyn y penderfyniad.

Ddechrau’r flwyddyn, bwriad y Cyngor oedd agor ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown er mwyn ateb y galw cynyddol am lefydd mewn ysgolion Cymraeg yn yr ardal.

Ond bellach, maen nhw’n awyddus i ehangu Ysgol Pwll Coch yn Nhreganna. Dywed ymgyrchwyr nad oes lle i ehangu ar y safle.

Mae’r safle oedd wedi cael ei ystyried ar gyfer yr ysgol Gymraeg bellach yn cael ei ystyried ar gyfer ysgol Saesneg newydd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) fod penderfyniad y Cyngor yn annerbyniol.

Mae disgwyl i ymgynghoriad gael ei gynnal ym mis Medi, ac fe fydd cyfle i drafod cynlluniau i adeiladu nifer o ysgolion Saesneg yn y brifddinas.

Ond ni fydd y cynlluniau bellach yn cynnwys ysgol Gymraeg newydd.

‘Diffyg parch’

Dywedodd Swyddog Maes y De Cymdeithas yr Iaith, Euros ap Hywel: “Roedd agwedd
aelodau’r cabinet yn gwbl gywilyddus heddiw.

“Dyn nhw ddim yn dangos unrhyw gydymdeimlad i’r rhieni na’r ymgyrchwyr a brotestiodd.

“Roedden nhw’n gwbl anwybodus ac yn dangos diffyg parch llwyr wrth drafod y materion.

“Ni wnaeth y cabinet ymateb i lythyron ac e-byst niferus y cyhoedd.

“Mae’r Gymraeg yn rhywbeth a ddylai berthyn i bawb a byddai’r Cyngor, drwy dorri ei addewid, yn rhwystro cenedlaethau o blant rhag cael y gallu i fyw yn Gymraeg. Dylai fod ysgol Gymraeg leol i bob cymuned yn y ddinas.

“Mae addysg Gymraeg yn rhoi sylfaen gref i blant a phobl ifanc allu byw a gweithio yn Gymraeg wedi iddyn nhw adael yr ysgol – a sicrhau fod y brifddinas yn dod yn un Gymraeg drwyddi draw.

“Fwy nag erioed, mae angen sicrhau’r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghaerdydd, beth bynnag eu cefndir.”

‘Dirmygus’

Dywedodd llefarydd ar ran mudiad RhAG: “Mae’r cabinet wedi ymddwyn mewn modd cwbl ddirmygus ac wedi anwybyddu dyheadau a galwadau rhieni a’r gymuned leol. Maent wedi cytuno i ymgynghori ar sail papur sy’n ystadegol ddiffygiol, sy’n tangyfrifo niferoedd o fewn y sector cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac o ganlyniad yn gosod rhagamcanion amheus iawn o safbwynt twf y dyfodol.

“Yn ôl cyfarwyddyd polisi Llywodraeth Cymru, dylai’r cyngor fod yn ymateb i’r galw am addysg Gymraeg yn lleol: mae’r galw o fewn cymuned Grangetown yn hysbys ac eto anwybyddwyd hynny.

“Ymddengys ei bod yn dderbyniol i blant sydd am dderbyn Addysg Gymraeg deithio allan o’u cymuned i dderbyn y ddarpariaeth honno. Mae anghydraddoldeb y polisi hwnnw’n syfrdanol.

“Mae RhAG yn falch o ddeall fod grŵp Plaid Cymru wedi galw’r penderfyniad i mewn sy’n golygu y bydd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor nawr yn gorfod edrych ar y cynnig.

“Bydd RhAG yn parhau i gydweithio gyda rhieni, mudiadau a’r gymuned yn ehangach wrth i’r ymgyrch ddwyshau yn erbyn y penderfyniad cywilyddus hwn.”