Mae angen cael gwared ar ffrydiau Saesneg a dwyieithog mewn ysgolion, meddai arbenigwr iaith ac addysg.

Fe alwodd hefyd am ddileu’r syniad o ddysgu Cymraeg ail iaith a chael un pwnc gyda gwahanol lefelau.

Yn ôl Heini Gruffudd o’r mudiad Dyfodol yr Iaith, mae angen “sefydlu system wirioneddol o gynyddu addysg Gymraeg ar draws Cymru.

Yn y Gynhadledd Fawr ar y Gymraeg, fe ddywedodd fod sefyllfa’r Gymraeg yn system addysg Sir Gaerfyrddin yn “drychinebus”, gyda llai a llai o blant yn derbyn addysg Gymraeg wrth fynd trwy’r gwahanol gyfnodau.

‘Twyll yn y system’

Roedd yna “dwyll” yn y system hefyd, gyda phlant a ddylai fod yn sefyll arholiadau Cymraeg iaith gyntaf yn sefyll rhai ail iaith er mwyn cael graddau da.

Fe atebodd arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge, trwy ddweud fod arolwg ar droed ar hyn o bryd a’u bod yn cydnabod methiant ar lefel ysgolion uwchradd.

Ac fe addawodd y byddai’r cyngor yn gweithredu pe bai’r adroddiad yn dangos bod angen gwneud mwy.