Carwyn Jones yn y Gynhadledd Fawr
Roedd ffigurau iaith y Cyfrifiad yn “siomedig”, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones wrth agor cynhadledd ar y Gymraeg.

Fe ddywedodd fod angen dod o hyd i ffyrdd newydd o gryfhau sylfeini’r Gymraeg a sicrhau bod pobol yn defnyddio’r iaith – yn Gymry a mewnfudwyr.

Yn Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr, fe nododd rai o’r heriau mawr oedd yn wynebu’r Gymraeg, gan gynnwys mewnfudo, diffyg trosglwyddo’r iaith a diffyg defnydd cymdeithasol o’r iaith.

“Er enghraifft, pam nad yw disgyblion sy’n cael addysg Gymraeg yn defnyddio’r iaith y tu fas i’r dosbarth?” meddai wrth fwy na 150 o gynrychiolwyr o wahanol fudiadau a sefydliadau.

Os oedd pethau y gallai’r Llywodraeth eu gwneud, fe roddodd addewid y bydden nhw’n cael eu gwneud ond roedd yn pwysleisio nad oedd gan y Llywodraeth “fonopoli” ar syniadau.

‘Dechrau proses’

“Dyna beth mae heddi amdano,” meddai, “sicrhau fod pawb, beth bynnag eich oedran, eich bro, eich profiad o’r Gymraeg yn deall beth yw’r heriau.

“Mae’n rhaid i ni dderbyn fod yr atebion yn wahanol yn y cymunedau sydd gyda ni.

“Mae hwn yn ddechrau proses, dyw hwn ddim yn ddechreuad a chau proses ac mae’n bwysig iawn fod y broses yn symud ymlaen ar ôl heddi.”