Nid yw’r arian ar gael i hollti Radio Cymru yn ddwy orsaf.
Dyna’r neges gan Betsan Powys wrth iddi ddechrau ar ei gwaith yn bennaeth ar yr orsaf ddechrau’r wythnos.
“Rydw i’n deall y bwriad o gael dwy orsaf, mae’n gwneud sens bod pobol yn dymuno cyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd, a gwneud hynny drwy gyfrwng dwy orsaf.
“Dyw’r arian ddim yna i ddatblygu dwy orsaf yn y ffordd draddodiadol, [sef] sefydlu ail orsaf.”
Ond mi fydd Radio Cymru yn gwneud mwy o ddefnydd o’r We er mwyn bwydo’r galw ar-lein, meddai.
Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.