Mae oedolyn a phlentyn wedi cael eu darganfod yn farw mewn tŷ ym Merthyr Tudful, meddai Heddlu De Cymru.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Stryd yr Eglwys, Troedyrhiw ym Merthyr tua 4.20yh ddoe a darganfod dau gorff.

Nid yw’r heddlu wedi cadarnhau oedran na rhyw’r ddau, ond mae lle i gredu mai mam a phlentyn yw’r ddau.

Cafodd yr ardal ei chau neithiwr wrth i’r heddlu gynnal ymholiadau o dy i dy.

Mae’r teulu wedi cael gwybod, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn fuan.

Mae’r heddlu’n trin y marwolaethau fel rhan anesboniadwy ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.

Dywedodd y Detectif Uwch Arolygydd Paul Hurley o Heddlu De Cymru: “Mae Troedyrhiw yn gymuned glos ym Merthyr Tudful ac mae pobol leol yn amlwg wedi cael sioc.

“Mae gennym ni dîm o swyddogion ger y safle ac yn y gymuned yn chwilio am wybodaeth a allai helpu’n hymchwiliadau ni.

“Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi gweld neu glywed unrhyw beth amheus neu anaraferol yn Stryd yr Eglwys yn ystod yr wythnosau diwethaf.

“Gallai’r wybodaeth ymddangos heb arwyddocâd ond mi allai fod yn bwysig i’r ymchwiliad.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Dywedodd y cynghorydd lleol Gareth Lewis ei fod wedi clywed am y digwyddiad ar Twitter.

“Mae hon yn gymuned glos iawn, mae’r bobl yn neis iawn ac fe fyddan nhw’n helpu’r heddlu cymaint â phosib.

“Fe ddechreuodd y wybodaeth ledu ar-lein ac fe fydd yn cael effaith fawr ar y gymuned a’i phobl.”