Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion yr amgylchedd ac amaeth wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd uwch-gynhadledd ar faterion gwledig yn cael ei chynnal yn ystod y Sioe Frenhinol eleni.

Roedd Llyr Huws Gruffydd wedi galw ar y Gweinidog Amaeth, Alun Davies i gynnal trafodaethau amlbleidiol gyda chyrff ffermio a sefydliadau bywyd gwyllt er mwyn ymateb i’r argyfwng ffermio a bioamrywiaeth.

Bydd yr uwch-gynhadledd hefyd yn tynnu ynghyd weithwyr y tir a’r môr.

Gan dynnu sylw at adolygiad annibynnol i gyflwr y diwydiant amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai, dywedodd yr AC dros Ogledd Cymru mai dyma, efallai, fydd yr un darn pwysicaf o waith am y diwydiant amaethyddol a wneir gan Lywodraeth bresennol Cymru.

Cyfeiriodd hefyd at yr adroddiad Cyflwr Natur a gyhoeddwyd gan glymblaid o 25 o gyrff bywyd gwyllt, a ganfu fod 60% o’r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio dros y degawdau diwethaf.

Pwysig

Dywedodd Llyr Huws Gruffydd: “Rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd dwyn ynghyd bawb sydd â diddordeb mewn ymateb i’r ddwy her fawr hon sy’n wynebu’r Gymru wledig.

“Gwelsom fod bywyd gwyllt yng Nghymru yn dirywio’n arw, gyda chanlyniadau enbyd i amgylchedd Cymru, ac y mae arnom angen trafodaeth agored am y modd i ymateb i hyn.

“Mae’n bryd i ni symud ymlaen o’r hyn fu yn rhy aml yn ddadl sy’n pegynnu.

“Bydd yr uwch-gynhadledd hon yn gyfle y bu ei fawr angen i gael pawb o gwmpas y bwrdd i adeiladu ar dir cyffredin a thrafod meysydd lle’r ydym yn anghytuno.

“Ddylai hwn ddim bod yn ddigwyddiad unigol.”