Mae un o gynrychiolwyr ‘Celtiaid’ yr Alban yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, wedi galw am gymorth y Cymry i sicrhau y bydd papur pleidleisio refferendwm yr Alban y flwyddyn nesa’ yn ymddangos yn ddwyieithog.

Mae John Macleod yn galw am help ei gyd-Geltiaid er mwyn perswadio Llywodraeth yr Alban i gynnig cwestiwn y reffrendwm annibyniaeth yn iaith Gaeleg yr Alban yn ogystal â’r Saesneg, pan ddaw hydref 2014.

Mae angen llofnodi deiseb ar-lein cyn diwedd heddiw – dydd Mercher, Mehefin 5 – er mwyn iddi gael ei hanfon at y Llywodraeth i gael ei hystyried.

“Mae Deddf yr Iaith Gaeleg (yr Alban) 2005 yn nodi mai ei bwriad ydi diogelu statws yr iaith fel un o ieithoedd swyddogol yr Alban, yn cael yr un parch â’r iaith Saesneg,” meddai John Macleod.

“Dyna pam fy mod i wedi llunio e-ddeiseb i’w hanfon at Lywodraeth yr Alban, fel ffordd arall o dynnu sylw at y mater pwysig hwn.”

 Mae modd gweld y ddeiseb, a’i llofnodi, trwy fynd i http://www.scottish.parliament.uk/gettinginvolved/petitions/bilingualreferendumquestion