Llyfr y Flwyddyn
Heddiw, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yn fyw ar y we.

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei ddarlledu ar wefan Llyfr y Flwyddyn ac ar wefan rhaglen gelfyddydau S4C, Pethe am 2yh.

Yna, heno ar S4C bydd Alun Gibbard, cadeirydd y panel beirniadu Cymraeg yn trafod y Rhestr Fer gyda Lisa Gwilym ar raglen Pethe S4C am 9.30pm.

Bydd Golwg360 yn cynnal pleidlais Barn y Bobl unwaith eto eleni.

Meddai Emyr Gruffudd, cynhyrchydd rhaglen Pethe:

“Mae ‘Pethe’ yn croesawu’r cyfle i gydweithio hefo Llenyddiaeth Cymru, yr awduron a’r cyhoeddwyr ar gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, ac yn edrych ymlaen at ddarlledu rhaglen arbennig ar noson y gwobrwyo ym Mis Gorffennaf. Byddwn hefyd yn darlledu pod-lediadau cyson ar ein gwefan rhwng rŵan a hynny yn trafod y llyfrau sydd ar y rhestr fer.”

‘Dathlu talent awduron Cymru’

Bydd naw llyfr Cymraeg ar y rhestr, tri llyfr mewn tri chategori – Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Bydd rhestr fer o naw llyfr Saesneg yn cael eu cyhoeddi hefyd.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Nod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yw hyrwyddo llyfrau Cymraeg a Chymreig, dathlu talent awduron Cymru ac annog trafodaeth am ein llenyddiaeth. Mae’r twf digidol a’r pwyslais ar hygyrchedd gwybodaeth yn rhoi’r cyfle i ni eleni ddatgan Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar-lein am y tro cyntaf erioed.

“Trwy gydweithio â rhaglen Pethe, S4C a defnyddio platfform digidol i gyhoeddi’r rhestr fer, rydym yn sicr y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn teimlo bwrlwm y gystadleuaeth ac yn ymuno yn y drafodaeth.”

Panel Beirniadu llyfrau Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 yw Alun Gibbard, Bethan Elfyn ac Elin ap Hywel.

Panel Beirniadu llyfrau Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 yw Ffion Hague, Jasper Fforde a Richard Marggraf Turley