“Dyw newid ddim yn dod heb frwydr” – dyna neges arweinydd Ceidwadwyr Cymru i gynhadledd wanwyn ei blaid yn Stadiwm Liberty, Abertawe, heddiw.

“Mae angen i ni fynd â’r ffeit at y llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghaerdydd,” meddai Andrew R T Davies. “Nid dim ond am ein bod yn gwrthwynebu’r hyn maen nhw’n ei wneud, ond oherwydd fod Cymru’n haeddu gwell.

“Mae angen i ni frwydro’r prif bwyntiau ar yr economi yn erbyn pleidiau’r chwith.

“Ym Môn, mae ganddon ni fwy o ymgeiswyr nac erioed o’r blaen… ac wrth i ni feddwl am Etholiad Cyffredinol 2015, mae angen i ni gydlynu’r frwydr ar hyd a lled Cymru.

Iechyd ac Addysg yn flaenoriaeth

“Mae Cymru’n haeddu gwell sustem iechyd,” meddai Andrew R T Davies wedyn. “Nid torri’n ôl ac ail-drefnu.

“Mae Cymru’n haeddu gwell sustem addysg, sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i’n plant allu cystadlu yn erbyn gweddill y byd.”

Prydain yn un

Ond, cyn gallu delifro mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Fae Caerdydd, mae angen ennill y frwydr, meddai Andrew R T Davies wedyn.

“Mae’n frwydr i gadw’r Deyrnas Unedig yn un,” meddai. “Brwydr i hybu Ceidwadwyr Cymru ar bob lefel. Brwydr i wneud Cymru gystal ag y medr hi fod ar lwyfan byd.”