Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar actor Cymraeg y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd wedi cael ei gyhuddo gan yr heddlu.

Mae’r dyn 24 oed o Drelai wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ar ddydd Mawrth, Mai 14.

Cafodd Rhys ap William, 37 oed, a ymddangosodd neithiwr yn y ddrama Y Bont ar S4C, ei adael yn anymwybodol y tu allan i dafarn yr Admiral Napier yn Nhreganna toc wedi hanner nos ar ddydd Sul, 24 Chwefror.