Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi cael ei beirniadu am beidio dilyn esiampl Cymru a Gogledd Iwerddon drwy godi tâl ar gwdyn plastig un-tro.

Mae Gogledd Iwerddon yn cyflwyno tâl 5c heddiw, 18 mis ar ôl i Gymru arwain, ac mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Adran yr Amgylchedd yn Llundain o gyflwyno “esgusodion gwan” am beidio cyflwyno tâl yn Lloegr.

“Mae’n anhygoel fod Lloegr yn cael ei gadael ar ôl yn y mater yma,” meddai Dr Sue Kinsey o’r Gymdeithas Gadwraeth Forol.

“Er bod y llywodraethau datganoledig wedi cyflwyno mesurau llwyddiannus a phoblogaidd rydym ni’n dal i glywed esgusodion gwan gan Defra dros beidio cyflwyno cynllun o’r fath yn Lloegr.

“Mae Defra’n dweud na fyddai’r bobol yn medru fforddio’r tâl neu fyddai siopau ddim yn medru ymdopi – ond rydym ni’n gwybod o brofiad Cymru nad yw hynny’n wir.”

Galw am dâl yn LLoegr erbyn diwedd 2014

Cododd nifer y bagiau plastig a gafodd eu dosbarthu yn Lloegr gan 7.5% yn ystod 2011, i 6.8 biliwn, ac mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo David Cameron o dorri addewid a wnaeth yn 2010 i weithredu i dorri’r nifer o fagiau plastig.

Mae mudiadau megis Cadwch Prydain yn Daclus, Surfers against Sewage ac Ymgyrch i Ddiogelu Lloegr Wledig wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno tâl ar fagiau erbyn diwedd 2014.   

Ond dywedodd llefarydd ar ran Defra eu bod nhw am “weithio gyda mân-werthwyr i’w helpu nhw wella wrth dorri nifer y bagiau sy’n cael eu dosbarthu.”

“Rydym ni’n monitro canlyniadau’r cynlluniau codi tâl sydd mewn grym a chanlyniad yr ymgynghoriad ar godi tâl yn yr Alban,” meddai.