Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gorfod brwydro bron i 300 o danau gwair dros y dyddiau diwetha’.
Mae’r tanau – nifer ohonyn nhw wedi eu cynnau’n fwriadol – yn digwydd yn draddodiadol yn y gwanwyn bob blwyddyn, wrth i’r ddaear a’r gwair sychu, ac wrth i blant a phobol ifanc fod adre’ o’r ysgol dros bythefnos gwyliau’r Pasg.
Ddoe, roedd y Gwasanaeth yn brwydro y tân diweddara’ yn Tylorstown, y Rhondda. Roedd ymladdwyr tân o orsafoedd Pontypridd, Porth, Ferndale a Thonypandy yn y fan a’r lle.
Fflamau a ffigyrau
Dyma nifer y tanau sydd wedi eu diffodd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru rhwng Mawrth 29 ac Ebrill 4 eleni…
Blaenau Gwent – 9
Pen-y-bont ar Ogwr – 47
Caerffili – 44
Caerdydd – 12
Merthyr Tudful – 33
Sir Fynwy – 2
Casnewydd – 14
Rhondda Cynon Taf – 114
Torfaen – 11
Bro Morgannwg – 1
Cyfanswm – 287