Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi rhestrau o’r ymgeiswyr ar gyfer etholiadau sydd i’w cynnal ar Fai 2.

Daeth y cyfnod enwebu ymgeiswyr i ben yn swyddogol ddoe.  

Fe fydd etholiadau’n cael eu cynnal ym mhob un o’r 11 ward aml-aelod newydd, gyda 107 o ymgeiswyr yn cystadlu am 30 sedd ar y Cyngor Sir Ynys Môn newydd.

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Richard Parry Jones, “Bydd tirwedd wleidyddol Môn yn newid yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir eleni wrth i 11 ward aml-aelod newydd gael eu creu.

“Rydym yn hynod o falch y bydd cystadleuaeth ym mhob ward am ein bod wedi gwneud ymdrech fawr i godi proffil yr etholiadau yma o gofio’r newidiadau i’r ffiniau a’r ffaith mai Ynys Môn yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru fydd yn cynnal etholiadau sirol yn ystod 2013.”

Am restr lawn o’r ymgeiswyr fydd yn cystadlu’r etholiad Cyngor Sir yn eich ward chi, ewch i: www.ynysmon.gov.uk/etholiadaucyngorsir