Mae Golygydd Rhaglenni Cyffredinol Radio Cymru, Lowri Rhys Davies wedi cyhoeddi ei bod hi’n rhoi’r gorau i’w swydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru ei bod hi’n gadael am resymau teuluol.

Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru: “Rydym yn gobeithio penodi golygydd newydd cyn gynted â phosib, a bydd Lowri yn parhau yn ei swydd tan y bydd y person newydd yn barod i gymryd yr awenau yn yr haf.

Ychwanegodd y llefarydd y bydd ei swydd yn cael ei hysbysebu yr wythnos hon, ac y byddai Lowri Rhys Davies yn aros yn ei swydd am gyfnod ar ôl i’r golygydd newydd gael ei benodi “er mwyn sicrhau dilyniant i’r orsaf ac i’r staff”.

“Yn y cyfamser, mae Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau BBC Radio Cymru yn parhau yng ngofal yr holl wasanaeth ac yn cydweithio’n agos gyda Lowri a thîm ehangach Radio Cymru er mwyn cynnig y rhaglenni gorau posib i wrandawyr.”

Cafodd ei phenodi i’r swydd fis Mawrth y llynedd, a chyn hynny, bu’n gynhyrchydd gyda Radio Cymru ers 2003, ac yn olygydd cynorthwyol ar nifer o achlysuron ers 2008.