Mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi dweud bod 100 o achosion newydd o’r frech goch wedi cael eu canfod yn Abertawe dros yr wythnos ddiwethaf.
Erbyn hyn, mae 541 o achosion wedi cael eu trin yn y ddinas ers i’r epedemig ddechrau.
Mewn ymateb i’r cynnydd, fe fydd clinigau arbennig yn cael eu sefydlu yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot ddydd Sadwrn rhwng 10am a 6pm er mwyn cynnig brechiadau.
Mae nifer gynyddol o bobol wedi cael eu brechu yn erbyn yr haint ers yr achosion cyntaf, ond mae disgwyl i nifer yr achosion gynyddu eto.
Roedd arbenigwyr wedi gobeithio gwaredu ar y frech goch yn Ewrop erbyn 2015 ond oherwydd yr epidemig diweddaraf, mae hynny’n annhebygol iawn.
Mae achosion wedi cael eu canfod ym myrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda hyd yma.
Mae’r rhan fwyaf o achosion yn effeithio ar blant 10 i 15 oed, ac fe fydd ymdrechion yn cael eu gwneud i frechu plant sydd heb gael yr MMR.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai’r haint ledu wrth i blant sydd heb eu brechu ddod i gyswllt â phlant sy’n dioddef o’r frech goch.
Roedd 1,902 o achosion o’r frech goch ym Mhrydain y llynedd, un o’r lefelau uchaf yn Ewrop.