Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gefnogi eu cynlluniau am “Gyfraith Robbie”, wedi i lywodraeth San Steffan dderbyn eu hargymhellion.
Canfu Adroddiad Francis fod “dioddefaint echrydus a diangen ” wedi ei achosi mewn ysbyty yn Stafford ac wedi arwain at gannoedd o farwolaethau rhwng 2005 a 2008.
Un o argymhellion yr adroddiad yw ei gwneud yn drosedd i weithwyr iechyd proffesiynol gelu eu camgymeriadau.
Galwodd Plaid Cymru am gyflwyno deddf debyg y mis diwethaf wrth drafod achos Robbie Powell, a fu farw ym mis Ebrill 1990 o Glefyd Addison, cyflwr prin ond triniadwy, a ddylasai fod wedi ei ganfod.
Byth ers y trychineb, mae teulu Robbie wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder a thryloywder mewn achosion o’r fath.
Gwneud cuddio yn anghyfreithlon
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Y mis diwethaf, fe gynigiais i ‘Gyfraith Robbie’ sydd yn debyg iawn i’r hyn a gynigir yn Adroddiad Francis.
“Buasai cynnig Plaid Cymru yn gwneud dileu pethau yng nghofnodion meddygol, cleifion yn anghyfreithlon.
“Fe fyddai yn caniatáu gwneud newidiadau, ond er mwyn tryloywder, fe ddylai’r holl gofnodion blaenorol fod yn weladwy hefyd.
“Byddai ail ran y Mesur yn gosod dyletswydd newydd o onestrwydd wrth ymdrin â pherthnasau cleifion fu farw.”
Ffugio
“Ar hyn o bryd, does dim yn y gyfraith i atal ffugio cofnodion meddygol,” meddai Leanne Wood, “na dim chwaith mewn cyfraith fyddai’n mynnu bod rhieni yn cael y gwir hanes am y farwolaeth petai plentyn yn marw.
“Mae Plaid Cymru eisiau i rywbeth gael ei wneud am hyn yng Nghymru, a byddwn yn pwyso am newidiadau deddfwriaethol i roi terfyn ar yr hyn sydd yn fy marn i yn nam ar y system.”