Mae cerflun o wyneb Celtaidd ar goeden dderw ger Llanberis wedi ei ddifrodi a’i ddwyn, yn ôl Bro360.

Yn ystod stormydd ym mis Chwefror, cwympodd coeden dderw gan ddymchwel rhan o bont gerrig dros afon Fachwen ar dir Canolfan Cae Mabon.

Yn dilyn hyn, penderfynwyd gwneud gwelliannau i’r llwybr sydd yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr a phobol leol.

Wedi’i ysbrydoli gan Wyneb Celtaidd Hendy a ddarganfuwyd ar Ynys Môn, cerfiodd y cerflunydd lleol Peter Boyd wyneb Celtaidd ar fonyn y goeden.

Ond nos Sul (Mai 17), cafodd y wyneb ei ddifrodi a’i ddwyn.

Mae Canolfan Encil Cae Mabon wedi rhoi gwybod i’r heddlu, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Dwyn a fandaliaeth fwriadol

Yn ôl Eric Maddern, sy’n rhedeg Canolfan Cae Mabon, mae hwn yn “weithred o ddwyn a fandaliaeth fwriadol”.

“Mae’r lladron nid yn unig wedi dwyn oddi wrth y cerflunydd a phobol Cae Mabon a fu’n brysur yn gwneud y gwelliannau i’r llwybr, ond hefyd wedi dwyn y pleser oedd y wyneb yn ei roi i bobol leol oedd yn mwynhau cerdded ar hyd y llwybr,” meddai.

Ychwanegodd fod y cerflunydd Peter Boyd yn bwriadu ail-greu’r cerflun cyn bo hir.