Mae rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi’u cau dros dro yn sgil y pandemig coronafeirws.
Bydd y llwybrau cyhoeddus yn cael eu cadw ar gau nes mae awdurdodau yn credu ei bod hi’n saff i’w hail-agor.
Y rhannau sydd wedi cau dros dro yw;
- Aberystwyth – Clarach
- Aberaeron – Aberarth
- Aberarth – Llanon
- Aberporth – Tresaith
- Aberteifi
- Borth – Tre Taliesin
- Clarach – Borth
- Cwmtydu – Ceinewydd
- Gwbert – Mwnt
- Llangrannog – Urdd
- Llanina – Aberaeron
- Llanon – Llanrhystud
- Llanrhystud – Tan y Bwlch
- Mwnt – Aber-porth
- Ceinewydd – Llanina
- Penbryn – Llangrannog
- Tresaith – Penbryn
- Urdd – Cwmtydu
Mae gweddill rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Ceredigion annog unrhyw un sy’n mynd i gefn gwlad i wneud hynny’n gyfrifol, yn barchus ac i ddilyn cyngor y Llywodraeth.
Maent hefyd am i’r cyhoedd gadw draw o leoliadau a llwybrau a allai fod yn brysur neu’n agos at dai, gerddi ac iardiau ffermydd.