Mae dyffryn yng ngogledd Cymru ymhlith llond llaw o lefydd a fydd yn elwa o fuddsoddiad £10m gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fe fydd y buddsoddiad yma yn cael ei wneud i leihau’r risg o lifogydd yno, ac yn adfer tir ar gyfer bywyd gwyllt.

‘Prosiect yr Afondiroedd’ yw enw’r ymgyrch, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ynghlwm â hi.

O’r £10m, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio codi £4m trwy gynnal digwyddiadau codi arian.

Mae’r corff hefyd yn ystyried cyflwyno system newydd i dalu ffermwyr yng ngogledd Cymru a Dolau Swydd Efrog i ofalu am natur.