Mae ffermwr o ogledd Sir Gaerfyrddin eisiau “mynd â’r wlad i’r dref” wrth agor siop gigydd yng Nghaerdydd.

Ers dechrau Tachwedd, mae Shaun Jones, sy’n wreiddiol o ardal Llanybydder, wedi agor siop gigydd yn enw’i dad-cu yn ardal Treganna o’r brifddinas.

Mae’n esbonio fod Oriel Jones, sy’n 86 mlwydd oed, yn enw adnabyddus yng nghymunedau cefn gwlad y gorllewin am iddo redeg lladd-dy Llanybydder am flynyddoedd cyn ei drosglwyddo i gwmni Dunbia sy’n wreiddiol o Ogledd Iwerddon.

Ac mae Shaun Jones, sy’n 30 oed, yn dweud ei fod wedi synnu cymaint o bobol sy’n dod i’r siop am eu bod yn cofio’r enw hwnnw.

“Mae llawer o bobol o’r gorllewin wedi symud i Gaerdydd, ac maen nhw’n dod i’r siop achos y cysylltiad yna,” meddai.

Troi am Gaerdydd

Dim ond ers rhyw bum mlynedd y mae Shaun Jones wedi ffermio’n llawn amser, a hynny wedi iddo hyfforddi’n athro ysgol gynradd.

Un o’r pethau cyntaf a wnaeth ar ôl dychwelyd i ffermio gyda’i dad, Barrie Jones, oedd cychwyn gwefan i werthu’r cig.

Mae’n dweud iddo ryfeddu cymaint o bobol o ardaloedd dinesig fyddai’n archebu cig ganddo.

“Dw i’n meddwl fod yna alw mawr yng Nghaerdydd a llefydd tebyg am gynnyrch ffres o safon, achos mae’n her i gael gafael arno,” meddai wrth golwg360.

Mae’n ychwanegu fod nifer o Gymry Cymraeg yn byw yn ardal Treganna sydd wedi bod o help iddo.

Traddodiad teuluol

Mae ei deulu’n ffermio fferm Llygadenwyn ger Llanybydder ac yn cadw gwartheg duon Cymreig, defaid ac yn ymestyn yn y flwyddyn newydd i gadw moch.

“Mae pobol yn hoffi clywed y stori tu ôl i’r cynnyrch ac wrth eu bodd yn gweld enw’r ffarm ac enwau ffermydd lleol ar y labeli wrth brynu’r cig,” meddai Shaun Jones.

“Traddodiad ein teulu ni yw ffermio a bod yn gigyddion, ac o’n i eisiau’r cyfle i wneud yr un peth.”