Mae ffermwr ifanc o Langwyryfon yng Ngheredigion wedi ennill Cystadleuaeth Pesgi Moch 2021, sy’n cael ei threfnu gan Fenter Moch Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Cafodd Eiry Williams ei chyhoeddi yn enillydd fel rhan o ddigwyddiadau’r Ffair Aeaf fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30), gyda phum ffermwr arall yn cyrraedd y rownd derfynol eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn fenter flynyddol ar y cyd rhwng Menter Moch a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru er mwyn annog y genhedlaeth nesaf o geidwaid moch, gan roi cefnogaeth a mentora i’r ffermwyr ifanc wrth iddyn nhw gamu i mewn i’r maes.

Y rownd derfynol

Roedd y chwe unigolyn a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni wedi derbyn moch ifainc yn gynnar ym mis Medi, gyda phob cystadleuydd yn derbyn hyfforddiant drwy gydol y cyfnod ers hynny.

Heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30), roedd pob cystadleuydd yn y rownd derfynol yn arddangos eu moch mewn dosbarthiadau dangos byw.

Yn dilyn hynny, cafodd ei gyhoeddi mai Eiry Williams, sy’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon, oedd yn fuddugol.

“Wnes i erioed feddwl y baswn i’n ennill,” meddai.

“Mae wedi bod yn gyfle anhygoel a dw i wedi mwynhau bob eiliad o’r gystadleuaeth.

“Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i Fenter Moch Cymru a CFFI Cymru am roi’r cyfle imi gael cychwyn cadw moch a fy mwriad yw parhau i gadw moch yn y dyfodol.

“Mae’r holl brofiad wedi bod yn hwyl ac yn addysgiadol.”

‘Cystadleuaeth wych unwaith eto’

Wrth longyfarch yr holl gystadleuwyr dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch, fod pob un ohonynt wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda’u sgiliau moch.

“Hoffwn longyfarch Eiry ar ei llwyddiant eleni wrth ennill y gystadleuaeth pesgi moch,” meddai.

“Mae wedi bod yn gystadleuaeth wych unwaith eto eleni.

“Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni redeg y fenter hon mewn cydweithrediad â CFfI Cymru, a hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr ar eu llwyddiant yn eu menter newydd.

“Hoffwn ddymuno pob lwc iddynt.”

 

Criw o ffermwyr ifanc wedi cynhyrfu yn cael croesawu moch newydd i’w ffermydd

Fe fydd chwech o ffermwyr ifanc yn derbyn moch ar ôl ennill cystadleuaeth yn y Sioe Frenhinol Rithwir