Mae awdurdodau lleol, yn cynnwys Cyngor Ceredigion a Chyngor Gwynedd, wedi rhybuddio ymwelwyr i beidio aflonyddu ar forloi yn yr ardal.

Daw hyn yn dilyn twf mewn achosion o aflonyddu ar fywyd gwyllt arfordirol yng Nghymru, ac mae’n debyg bod hynny oherwydd y cynnydd mewn ymwelwyr dros yr haf.

Roedd un digwyddiad lle’r oedd pobol yn tynnu hun-luniau gyda morloi ar draeth, ac roedd hynny wedi dychryn yr anifeiliaid.

Yn dilyn hynny, bu farw un morlo ifanc ar ôl iddo gael ei wahanu oddi wrth ei fam.

Gyda thymor magu morloi rhwng mis Awst a mis Rhagfyr, mae swyddogion wedi galw ar bobol i beidio agosáu at yr anifeiliaid ar draethau neu greigiau er mwyn osgoi unrhyw aflonyddwch.

“Cadwch draw a mwynhewch o bell”

“Rhaid cofio bod morloi bach angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu,” meddai Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Melanie Heath.

“Dim ond am dair wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt ofalu am eu hunain.

“Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o le heb ymyrraeth.

“Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth.”

Fe ychwanegodd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Economi ac Adfywio, at yr apêl honno, gan ddweud bod hi’n “bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt,” a bod angen eu mwynhau o bell.