Mae boda tinwyn o’r enw Bomber wedi herio disgwyliadau wrth gwblhau taith o bron i 1,000 o filltiroedd o ogledd Cymru i Wlad y Basg, lle mae hi wedi treulio’r ddau aeaf diwethaf.

Cafodd dyfais tagio-lloeren ei gosod ar yr aderyn ifanc, a wnaeth ddeor ar y Migneint yn Eryri yn 2019, tra roedd hi’n dal yn y nyth.

Mae hynny wedi galluogi gwyddonwyr yr RSPB i ddilyn anturiaethau’r aderyn ysglyfaethus prin.

Mae rhywogaeth y boda tinwyn yn bridio yn ucheldiroedd gwledydd Prydain ond mae astudiaethau’n dangos bod eu poblogaeth wedi dirywio dros y degawdau diwethaf, yn bennaf oherwydd erledigaeth gan bobol.

Yn 2016, dangosodd arolwg fod 35 pâr tiriogaethol yng Nghymru, sy’n ostyngiad o 39% ers 2010.

Teithio dros 1,000 o filltiroedd mewn pythefnos

Dilynodd gwyddonwyr yr RSPB daith Bomber ar draws y Sianel o Loegr i Ffrainc, cyn iddi fynd yn ei blaen i ranbarth Navarra yng Ngwlad y Basg yn 2019, lle treuliodd ei gaeaf cyntaf.

Yn y gwanwyn canlynol, hedfanodd adref i Gymru, gan ymgartrefu ym mynyddoedd Carneddau, tua 25 milltir o’r man lle’r oedd wedi deor.

Er bod y rhan fwyaf o fodaod tinwyn benywaidd yn dueddol o aros yn agos at adref ar hyd eu hoes, roedd Bomber yn symud eto erbyn Tachwedd 3, ac roedd hi’n ôl yn ei thiriogaeth aeaf erbyn Tachwedd 18.

Roedd hi, felly, wedi teithio dros 1,000 o filltiroedd mewn ychydig dros bythefnos.

Llwybr Bomber o Gymru i Sbaen

“Anhygoel sut mae’r adar hyn yn canfod eu ffordd”

“I ddechrau, roeddem yn credu bod y rhan fwyaf o’r bodaod tinwyn sydd wedi’u tagio yn aros yn ucheldiroedd y DU trwy gydol y flwyddyn,” meddai Niall Owen, Swyddog Ymchwiliadau Cynorthwyol yr RSPB.

“Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod tua 10% o adar yn croesi Sianel Lloegr am y gaeaf, gan amlaf hefo’r bwriad o fynd i Ffrainc neu Sbaen.

“Dim ond yn ddiweddar mae’r adar sydd wedi cael eu tagio gan yr RSPB wedi dechrau dod yn ôl i’r DU.

“Mae stori Bomber hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, oherwydd nid yw’r mwyafrif o fodaod tinwyn yn tueddu i grwydro ymhell o’r man lle maent yn deor.

“Mae’n anhygoel sut mae’r adar hyn yn canfod eu ffordd yn ôl i’r un fan a’r lle, bron i 1000 milltir i ffwrdd, gyda’r fath gywirdeb. Mae sut yn union maen nhw’n llwyddo i wneud hyn yn parhau i fod yn ddirgelwch.”

Y gobaith yw y bydd Bomber yn dychwelyd i Gymru yn ystod y misoedd nesaf ac yn nythu unwaith eto, gan anfon cenhedlaeth anturus newydd allan i’r byd.

Gosod tag lloeren ar Bomber