Mae Dr Andrew Lloyd o Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ennill gwobr ‘seren y dyfodol’ gan Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol (UKRI) yn sgil prosiect rhyngwladol.

Nod y prosiect, yw ceisio sicrhau y gellir tyfu cnydau’n llwyddiannus mewn amgylchiadau amrywiol o wres a glaw, gan ddelio â chlefydau newydd a ddaw gyda newid hinsawdd.

“Mae’n hynod gyffrous i gael fy nghydnabod gan UKRI fel Arweinydd y Dyfodol,” meddai Dr Andrew Lloyd, “ac i fod yn gweithio gyda grŵp ardderchog o bartneriaid yn y DU, UDA, Ffrainc ac Awstralia ar y prosiect hwn.”

“Her fawr sy’n wynebu’r sector amaethyddol”

Wrth drafod arwyddocâd y prosiect pedair blynedd, dywedodd fod “sicrhau modd cynaliadwy o gynhyrchu bwyd wrth i’r hinsawdd newid yn her fawr sy’n wynebu’r sector amaethyddol.”

“Rydym yn anelu at ddatblygu offer i’w ddefnyddio mewn bridio planhigion traddodiadol sy’n lleihau’r amser y mae’n cymryd i ddatblygu amrywiaethau newydd. Bydd yr offer hwn hefyd yn helpu i adfer y nodweddion sydd yn galluogi cnydau gwyllt i wrthsefyll clefydau a newid amgylcheddol, galluoedd a gollwyd wrth ddofi cnydau,” meddai.

 “Cydnabyddiaeth deilwng”

Derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Adeilaide yn 2011, gan dderbyn Medal Doethuriaeth y Brifysgol am ei ymchwil mewn genetig esblygiadol.

Ers 2018, mae wedi bod yn Gymrawd Seren Cymru II yn Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn ôl Pennaeth yr adran, Yr Athro Iain Donnison, mae’r dyfarniad i Dr Lloyd “yn gydnabyddiaeth deilwng o’i ddawn aruthrol yn ogystal â phwysigrwydd y prosiect ymchwil.”

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o arweinwyr y byd mewn gwyddoniaeth planhigion a chynaliadwyedd, ac mae’r prosiect hwn yn tanlinellu pwysigrwydd ein gwaith wrth i’r blaned wynebu realiti caled newid hinsawdd,” ychwanegodd.