Y cae fydd yn cael ei ailddatblygu (Llun Alun Lenny)
Mae un o Gynghorwyr Tref Cearfyrddin wedi dweud y byddai cynllun i adeiladu dros 1,000 o dai gerllaw yn “newid cymeriad y dref”.

Mae’r cynllun yn cynnwys defnyddio tua 320 erw o dir amaethyddol i’r gogledd o’r A40 er mwyn adeiladu 1,200 o dai newydd.

Fe fydd cyfnod o ymgynghori ynglŷn â’r datblygiad i godi 1,200 o gartrefi newydd yn dod i ben mewn wythnos .

Ond mae’r Cynghorydd Alun Lenny yn pryderu y gallai’r datblygiad rhoi straen ar ffyrdd a gwasanaethau cyhoeddus y dref, yn ogystal â’r iaith.

Twf poblogaeth

Yn ôl y Cynghorydd mae’r Cyngor Sir yn rhagweld y bydd poblogaeth y sir yn cynyddu 11% dros y ddegawd nesaf.

Ond mae Alun Lenny yn dweud mai mewnfudo fydd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd hwnnw.

“Ni fydd yna dwf naturiol ym mhoblogaeth y sir, sef bod mwy yn cael eu geni na sy’n marw,” meddai Alun Lenny wrth Golwg 360.

“Felly does dim galw am fwy o dai o fewn y sir.

“Mae stoc tai digonol ar gael yn barod, gyda thua 2,000 o gartrefi wedi bod yn wag ers cryn dipyn o amser. Fe ddylai’r cyngor ganolbwyntio ar y tai yma cyn dechrau adeiladu tai newydd.

“Fe fydd unrhyw dwf yn y boblogaeth o ganlyniad i fewnfudo ac fe fydd nifer sylweddol o’r rheini yn symud yma i ymddeol”

“Mae hyn yn mynd i newid cymeriad y gymuned ac mae ganddo’r potensial i effeithio ar yr iaith Gymraeg sydd eisoes mewn sefyllfa fregus yma.”

Straen

Mae’r Cynghorydd yn credu y byddai’r datblygiad yn rhoi straen mawr ar y gwasanaethau lleol hefyd.

“Yn hytrach nag edrych ar anghenion cymunedau Sir Gâr, mae’r Cyngor wedi rhoi eu holl wyau cynllunio yn yr un fasged,” meddai.

“Mae’n fwy neu lai’n golygu codi tref newydd yr un maint a Chydweli neu Landeilo ar gaeau gwyrdd ar gyrion Caerfyrddin.

“Fe fydd cael rhwng 3,000 a 3,5000 o bobl ychwanegol yn byw ar gyrion Caerfyrddin yn rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau lleol ar adeg pan maen nhw eisoes yn wynebu toriadau”

“Mae Ysbyty Glangwili eisoes yn cael trafferthion ymdopi gyda’r galw.

“Fe fydd y gwasanaethau cymdeithasol a brys hefyd o dan bwysau ychwanegol oherwydd y datblygiad.”

Fe fydd ffordd gyswllt newydd yn cael ei adeiladu a fyddai’n cysylltu’r datblygiad newydd gyda’r dref.

Ond mae Alun Lenny yn nodi bod ffyrdd eisoes yn brysur gyda thagfeydd ac ni fyddai’n bosib ymdopi gyda’r traffig ychwanegol o’r datblygiad.

“Mae yna gymaint o agweddau i’r cynllun yma sydd heb eu trafod na’u hystyried.”

‘Mygu’r drafodaeth’

Mae Alun Lenny hefyd yn feirniadol o grŵp Llafur ac Annibynnol sy’n arwain Cyngor Sir Gaerfyrddin gan eu cyhuddo o anwybyddu teimladau’r trigolion lleol.

“Mae’n amlwg nad ydynt yn rhoi fawr o ystyriaeth i deimladau’r bobl leol a’r effaith ar y cymunedau,” meddai.

Mae Alun Lenny yn credu bod y cyngor yn awyddus i gael y datblygiad er mwyn cyfiawnhau canolfan siopa Rhodfa’r Santes Catrin a agorodd llynedd.

Mae’r Cynghorydd hefyd yn credu bod y Cyngor Sir yn ceisio rhuthro’r cynlluniau trwyddo cyn cyflwyno rheolau newydd fydd yn atal cynghorwyr sir rhag rhoi eu barn ar faterion cynllunio.

Fe nododd Alun Lenny bod y rheolau yma’n “mygu’r drafodaeth” ac yn “cyfyngu ar yr ymgynghori.”