Carwyn Jones
Does gan Gymru ddim diwylliant o annog entrepreneuriaeth, yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Dywedodd wrth raglen Is Wales Working? ei fod yn teimlo nad oedd digon o bwyslais yng Nghymru ar fentro a llwyddo.

Roedd diwylliant y wlad yn atal disgyblion oedd yn gadael yr ysgol rhag mynd i fyd busnes, meddai.

“Roedd pobol yn tueddu i fod eisiau i’w plant gael swyddi saff, parchus, â phensiwn ar y diwedd,” meddai.

“Mewn sawl ffordd roedden ni’n cael ein hannog i beidio mynd i fys busnes neu waith masnachol a oedd yn fwy mentrus.

“Rydw i’n credu bod hynny wedi newid dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Dydyn ni erioed wedi dioddef o ddiffyg entrepreneuriaid – beth sydd ei angen yw’r hyder er mwyn caniatáu iddyn nhw droi eu syniadau yn fusnesau llwyddiannus.

“Wedyn fe fyddwn nhw’n gallu cyflogi pobol eraill.”

Tirwedd yn her

Ychwanegodd bod tirwedd Cymru yn golygu bod hybu twf economaidd mewn rhai rhannau’r o’r wlad wedi bod yn dipyn o her.

Ond byddai buddsoddiad mewn band eang yn golygu y gallai busnesau ffynnu yn unrhyw le yn y dyfodol, meddai.

“Mae yna rai rhannau o Gymru lle mae pethau wedi bod yn anodd ers yr 80au,” meddai.

“Mae wedi bod yn dipyn o her ond rydw i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud cynnydd. Beth sydd angen ei wneud dros y pump neu 10 mlynedd nesaf yw ceisio taenu’r cyfoeth.

“Mae Caerdydd wedi gwneud yn dda iawn, ac Abertawe wedi gweld buddsoddiad mawr dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Mae’r Cymoedd wedi bod yn anodd – mae’r tirwedd yno yn ei gwneud hi’n dipyn o her denu buddsoddiad.”

Cyfalaf

Mynnodd hefyd bod diwydiant yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg buddsoddiad yn hytrach na syniadau.

Amharodrwydd y banciau i fenthyca arian oedd yn gyfrifol am hynny, yn hytrach na diffyg ymdrech gan Lywodraeth Cymru, meddai.

Doedd gan Gymru ddim y cyfalaf yr oedd gan yr Almaen a’r Unol Daleithiau er mwyn hybu busnesau newydd, meddai.

“Mae busnesau yn dweud nad oes ganddyn nhw’n arian i ehangu am nad yw’n banciau yn fodlon benthyca iddyn nhw,” meddai. “Mae’n broblem fyd-eang.

“Nes ein bod ni’n gweld rhagor o arian yn mynd at y bobol sydd â syniadau da, fe fyddan nhw’n ei chael hi’n anodd tyfu eu busnesau.

“Rydw i’n credu y dylai’r llywodraeth ymyrryd pan mae’r economi yn dioddef a dyna yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud.”